Rhyw Fath o Ynfytyn
Nofel am wallgofrwydd cariad, sy'n amlygu ei hun drwy'r amser yn ein perthynas a'n gilydd. Mae Efa dros ei deugain, yn cydfodoli mewn brwydr barhaol a'i merch 15 oed, Ceri. Cenedlaetholwraig fyr ei thymer, wyllt ei natur, lem ei thafod yw Efa, a tan ar ei chroen yw'r cariad ddaw adre un dydd efo Ceri, sef newydd-ddyfodiad o Fyrmingham.