Y Llawes Goch A'r Faneg Wen
Mae'r llyfr hefyd yn ymchwilio'r berthynas rhwng y corff benywaidd a Chymru / y Gymraeg. Ydy'r ffaith ein bod yn cyfeirio at 'famiaith', a ffenomena fel cerdd adnabyddus T. H Parry Williams 'Hon' sy'n personoli'r wlad fel menyw, wedi cyfoethogi ein diwylliant neu'i rwystro? Ydy achos yr iaith ac achos gwleidyddiaeth rywedd yn datblygu llaw yn llaw yng Nghymru, neu fel arall, a oes un ohonynt yn ffynnu ar draul y llall? Mae'r llyfr yn defnyddio dros 150 o nofelau ac ystod eang o ffynonellau cyfoes eraill gan gynnwys hysbysebion, delweddaeth, chwedloniaeth a ffynonellau electronig i lywio dadl ffres, fywiog a heriol.