Fel dramodydd, sgriptiwr, cyfarwyddwr ac actor mae Meic Povey wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus. Yn llanc 18 oed gadawodd ei gynefin yn Eifionydd i gychwyn gwaith gyda Chwmni Theatr Cymru yn 1968 ac am fwy na 30 mlynedd mae'n awdur llawrydd sydd wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr, teledu a ffilm. Yn 1974 gyda'r diweddar Gwenlyn Parry, roedd yn gyfrifol am sefydlu Pobol y Cwm a bu'n actio yn y gyfres. Ymhlith ei ddramacirc;u y mae Y Cadfridog, Cofiant y Cymro Olaf, Wyneb yn Wyneb, Tair, Sul y Blodau, Nel, Perthyn, Talcen Caled, Bob a'i Fam a'i ddrama lwyfan Saesneg gyntaf, Indian Country. Ei ddrama Yn Debyg Iawn I Ti a Fi oedd perfformiad cyntaf cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Mae wedi ymddangos mewn cyfresi teledu a ffilmiau, gan gynnwys Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig, Minder, Rhandir Mwyn, Gwen Tomos, Yr Heliwr, a Teulu'r Mans.
Tyner Yw'r Lleuad Heno