Gwella iaith gyda Dwli! 'Dwedais i wrth ti,' 'Mae ci gan hi', 'Rhedodd Huw at fe,' - beth sy'n gyffredin yn y rhain? Arddodiaid neu'r ffurfiau anghywir ohonyn nhw ! Gyda safon iaith plant yn fynych o dan y lach, fe fydd yna groeso mawr i lyfr gweithgareddau newydd sy'n trin a thrafod arddodiaid mewn ffordd hwyliog dros ben. Wythfed teitl y gyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn yw Arddodiaid a luniwyd gan Elin Meek o Abertawe. Yn fam ei hun, mae'n ymwybodol iawn o'r iaith Gymraeg a siaredir gan blant heddiw ac mae'r posau amrywiol yn ei llyfr yn fodd i dynnu sylw at y defnydd cywir o arddodiaid a sut i gyfoethogi iaith gydag idiomau cynhennid Gymraeg. Yn tywys plant drwy'r llyfr mae draig o'r enw Dwli, creadigaeth yr arlunydd Graham Howells o Lanelli. Mewn swigen fawr o enau Dwli y daw ambell i reol iaith e.e ' Mae angen defnyddio ffurf wahanol ar yr arddodiad yn gyda phob rhagenw.' Nodir esiamplau o frawddegau cywir ac anghywir fel sail i'r plentyn fwrw ymlaen gyda'r gweithgareddau sy'n dilyn. Croesair, chwilair, datrys cliwiau, ail-drefnu geiriau, llenwi bylchau - mae yna amrywiaeth o dasgau yn y llyfr hwn a bydd llawer wedi ei ddysgu mewn dim o dro! Idiomau sy'n rhoi'r lliw ar unrhyw iaith ac mae llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig ag arddodiaid.
Ceir adrannau a gweithgareddau i gynorthwyo plant i ddefnyddio idiomau i wella eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Dyna chi 'ar bigau'r drain', 'cyn pen dim', 'dan ei sang', 'heb os nac oni bai', 'i'r byw,' ' mewn dim o dro,' 'o bwys', 'dros ben llestri', 'drwy'r trwch'. Fel teitlau eraill y gyfres, mae yna gyfieithiadau cryno o'r cynnwys i roi esboniad pellach i'r plant neu gymorth i rieni di-Gymraeg sy'n awyddus i gefnogi addysg Gymraeg eu plant. Gyda thoreth o lyfrau gweithgareddau i blant ar y farchnad ar wahanol bwyntiau'n ymwneud ''r iaith Saesneg, mae cyfres Helpwch eich Plentyn, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn cynnig arlwy hwyliog i blant ar agweddau penodol o ramadeg yr iaith Gymraeg. Mae Helpwch eich Plentyn/Help your Child: Arddodiaid/Prepositions wedi ei anelu at blant deg oed ac yn hyn. Dyma ychwanegiad gwreiddiol a defnyddiol iawn i'r gyfres.