Ar yr olwg gyntaf, dywr clawr efo'r llun o Dwlir ddraig fach ddireidus arno ddim fel pe bain cyd-fynd efor stamp 811 oed sydd arno hefyd. Tybed a yw maint a sip y llyfr hefyd yn ein harwain i feddwl mai cynulleidfa iau fyddain mwynhaur gyfrol yma o bosau, chwileiriau, gmau a drysfeydd? Ond unwaith i chi ddechrau troir tudalennau fe welwch chi gasgliad digon difyr ac amrywiol o weithgareddau wedi'u seilio ar Gymru syn addas ar gyfer plant cynradd hyn (ond nid 11, o bosib). Maen ffordd dda o ddysgu ffeithiau, ac maen amrywio o ran pa mor anodd ywr posau, felly ddylai neb droi at y cefn am yr atebion yn rhy aml! Yn y cefn hefyd mae yna gyfieithiadau ir cwestiynau (ar atebion), gan roi canllaw defnyddiol i ddysgwyr.Maer gyfrol yn eithaf ceidwadol yn weledol, ond mae'r cynnwys yn ddigon diddorol i ddal sylw, er maen siwr na fydd hin bosib plesio pawb. Os nad ydi diarhebion ac enwau blodau ar flaenau bysedd y plantos, yna dymar cyfle i ddysgu! Ond mae na gyfle hefyd iddyn nhw ddangos eu gwybodaeth am y Gymru gyfoes a datrys posau ysgafn chwilio am y gwahaniaethau rhwng dau lun, datrys anagram, chwileiriau, ac yn y blaen. Digon o amrywiaeth, felly.Elena GruffuddGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.
com , trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com , with the permission of the Welsh Books Council.