Dyma'r llyfr diweddaraf gan Elin Meek a'r lluniau gan Graham Howells sydd yn cynnwys gweithgareddau amrywiol i ddatblygu sgiliau iaith eich plentyn. Mae'r gyfres yn un hwyliog, gyda Dwli'r Ddraig yn gymeriad hoffus, a'r lluniau gan Graham Howells yn rhai doniol.Anela'r llyfr hwn at blant 9 i 12 oed, ac mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer rhieni yn ddwyieithog. Yn y llyfr ceir geiriau y mae disgyblion yn dueddol o gymysgu rhyngddyn nhw, ymarferion i ehangu geirfa, troi berfau yn ffurf negyddol, cymharu ansoddeiriau ac arddodiaid ar ôl berfenwau. Dywedodd fy mab 9 oed fod y llyfr hwn yn 'dda i'r ymennydd ac yn help gyda gwaith ysgrifennu'. Rhaid dweud fod y llyfr hefyd yn help i riant sydd ychydig yn rhydlyd! Adnodd defnyddiol pan nad oes digon o waith cartref!!Lynwen RobertsGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.