A Llyfr Ansoddeiriau, y/Check-List of Welsh Adjectives
A Llyfr Ansoddeiriau, y/Check-List of Welsh Adjectives
Click to enlarge
Author(s): Lewis, D. Geraint
ISBN No.: 9781843232391
Pages: 180
Year: 201811
Format: Trade Paper
Price: $ 15.80
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

English review follows Yn y llyfr hwn ceir rhestr o ansoddeiriau Cymraeg yn nhrefn yr wyddor. Mae'n gweithio un ffordd yn unig, felly os ydych yn chwilio am gyfieithiad Cymraeg o ansoddair Saesneg, dylech ddefnyddio Geiriadur ac nid y llyfr hwn. Ond os ydych eisiau cael gwybodaeth am ansoddair penodol, yna dyma'r llyfr i chi. Mae ansoddeiriau Cymraeg yn gallu cael eu cymharu. Er enghraifft, gyda'r ansoddair 'gwyn', gellir ei gymharu drwy ddweud 'cyn wynned '/mor wyn ''; 'gwynnach na'; 'y gwynnaf'. Gellir hefyd cael ffurf fenywaidd ar gwyn, sef 'gwen', yn ogystal ' ffurf lluosog 'gwynion'. Mae'r llyfr yma'n rhestru'r ffeithiau yma i gyd am bob ansoddair Cymraeg mewn modd trylwyr a dealladwy. Nid yw pob ansoddair yn gallu cael ei gymharu, e.


e. 'dihafal', a nodir hynny o dan bob ansoddair felly. Gallai'r llyfr hwn fod yn ddefnyddiol i bobl sy'n paratoi llythyrau neu ddogfennau ffurfiol yn Gymraeg. Byddai awduron a beirdd yn gweld gwerth yn y llyfr hwn gan fod yma bosibiliadau ar gyfer cyflythrennu o flaen eu llygaid. Mae'r llyfr yn addas ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg rhugl. Byddai'n well i ddysgwyr llai profiadol ddefnyddio geiriadur, gan y gallai'r rhestr yma eu llethu. Hefyd mae'r awdur, D. Geraint Lewis, yn rhybuddio yn ei ragair nad yw pob ansoddair yn y llyfr yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar lafar mwyach, ac y byddai'n swnio'n rhwysgfawr i wneud hynny.


Byddai'r llyfr yn ddefnyddiol i'w gael mewn Adrannau Cymraeg mewn ysgolion, ac ar silff pob myfyriwr gradd yn y Gymraeg.B.S. Reeves* * *As the title suggests, this is a reference book for all Welsh adjectives in alphabetical order. A dictionary is more suitable for Welsh learners, unless they have reached a high standard, as the author warns that some of the adjectives aren't used in spoken Welsh. Also, the list is only in Welsh, so it is not meant to be used to find a quick translation of the English equivalent. Welsh adjectives can be compared, like English adjectives, but there are two main forms used in Welsh. Also, there are masculine, feminine and plural versions of some, but not all, Welsh adjectives.


Some Welsh adjectives cannot be compared. This book lists them all in a user-friendly way. For example, 'gwyn' (white) can be used as follows: 'gwyn' (masculine); 'gwen' (feminine); 'gwynion' (plural); 'cyn wynned', 'yn wynnach', 'y gwynnaf' / 'mor wyn', 'mwy/mwyaf gwyn' (as white as, whiter than, the whitest; and so on).Fluent Welsh speakers, Welsh teachers, authors and poets would find this book useful, as well as those who write formal letters and documents in Welsh.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...