Pa Arddodiad? - a Check-List of Verbal Prepositions
Pa Arddodiad? - a Check-List of Verbal Prepositions
Click to enlarge
Author(s): Lewis, D. Geraint
ISBN No.: 9781859027646
Pages: 80
Year: 201811
Format: Trade Paper
Price: $ 14.04
Status: Out Of Print

Sawl gwaith y mae'r rhai ohonom sy'n troi ymysg plant a phobl ifanc wedi clywed rhai ohonynt yn dweud na fyddant yn yr ysgol ar ddyddiad penodol oherwydd eu bod yn 'mynd i'r deintydd'? A beth am gwestiwn 'tafod-yn-y-boch' un o'n grwpiau cyfoes, 'Hei, ti, lle ti'n mynd i?' yn un o'u caneuon enwocaf - heb sôn am y cyfarchiad cyfarwydd a glywir yn aml wrth gyfarfod rhywun dieithr am y tro cyntaf, 'Lle ti'n dod o?'Os yw'r enghreifftiau hyn o gamddefnyddio arddodiaid yn merwino'ch clustiau - neu os ydych yn ansicr ynghylch pa arddodiad sy'n addas i'w ddefnyddio - yna mae cymorth parod i'w gael yng nghyfrol D. Geraint Lewis, Pa Arddodiad? Er enghraifft, wyddech chi bod modd defnyddio cynifer ' 12 gwahanol arddodiad ar ôl y berfenw 'mynd' a bod yr ystyr, o ganlyniad, yn newid bob tro (e.e. 'mynd at rywun/rywbeth' ond 'mynd i rywle')?Dyna'r math o wybodaeth a geir rhwng cloriau'r llyfryn hylaw hwn a ddylai fod wrth benelin unrhyw un sy'n cael anhawster gyda'i arddodiaid. Ynddo, fe geir arweiniad trefnus sy'n cwmpasu rhestr o'r berfau sy'n cael eu dilyn gan arddodiaid (yn nhrefn yr wyddor), rhestr o rai priod-ddulliau cyfarwydd sy'n cynnwys arddodiaid, ynghyd ' rhestr o'r prif arddodiaid mwyaf cyffredin yn y Gymraeg (wedi'u rhedeg yn gywir). Yn ei Ragair i'r gyfrol, fe awgryma'r awdur mai 'wrth eu harddodiaid' y mae adnabod siaradwyr brodorol rhagor na dysgwyr iaith; yn wir, gellid dweud bod defnyddio arddodiaid yn gywir yn un o feini prawf siarad/ysgrifennu Cymraeg yn unol ' theithi naturiol yr iaith. Am y rhesymau hyn, yn ddiau, y cyfeirir yn benodol at 'ddefnyddio arddodiaid yn gywir ar ôl berfenw', yn ogystal ' 'rhedeg arddodiaid yn gywir', yn Rhaglenni Astudio y Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar draws yr holl oedrannau cynradd ac uwchradd. A pha well arweinlyfr i athrawon a phlant ar y mater hwn na'r gyfrol hwylus a defnyddiol hon?Ac felly, y tro nesaf y clywch chi rywun yn honni eu bod yn 'mynd i'r meddyg' neu'n gofyn 'Lle ti'n mynd i', estynnwch am y gyfrol hon, cyfeiriwch nhw at ei thudalennau, arweiniwch nhw drwyddi , tynnwch eu sylw nhw at y defnydd cywir o'r gwahanol arddodiaid a geir ynddi - a gobeithio y byddant maes o law yn dod i ddibynnu llai arni wrth ddod yn feistri ar wybod pa arddodiad sy'n gywir!W.


Gwyn LewisGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com , trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com , with the permission of the Welsh Books Council.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...