A Llyfr Enwau, y - Enwau'r Wlad / Check-List of Welsh Place-Names : A Check-List of Welsh Placenames
A Llyfr Enwau, y - Enwau'r Wlad / Check-List of Welsh Place-Names : A Check-List of Welsh Placenames
Click to enlarge
Author(s): Lewis, D. Geraint
ISBN No.: 9781843237358
Pages: 288
Year: 200703
Format: Trade Paper
Price: $ 31.61
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

Ar ddechrau ei lyfr diweddaraf mae D. Geraint Lewis yn dyfynnu'r cyngor, efallai taw rhybudd fuasai'r disgrifiad gorau ohono, a roddwyd gan Syr John Morris-Jones i Syr Ifor Williams: 'Fydd 'na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd.' Ni wnaeth hynny atal Ifor Williams rhag gwneud, na dwsinau o rai eraill chwaith, a dwi'n falch o ddweud nad yw D. Geraint Lewis wedi gadael i gyngor Syr John ei dawelu yntau.Mae Y Llyfr Enwau yn llyfr cyfeiriol sy'n ymgais i restru enwau lleoedd Cymru mewn ffurf Gymraeg gydnabyddedig, eu lleoliad yn ôl yr hen siroedd a'r awdurdodau unedol presennol, cyfeiriad grid yr Arolwg Ordnans, at beth mae'r enwau yn cyfeirio (lle, plwyf, mynydd, afon, heneb, fferm, a.y.b.) a'u ffurfiau Saesneg cyfatebol.


Efallai mai'r hyn sydd fwyaf diddorol, ac sy'n gwneud hwn yn llyfr i'w ddarllen yn ogystal ' chyfeirio ato, yw bod yr awdur yn cynnwys esboniad ar ystyr yr elfennau yn yr enwau hyn. Difyrrwch pur yw troi o un dudalen i'r llall gan ddysgu beth yw ystyron y gwahanol enwau lleoedd - weithiau cadarnheir yr hyn yr oedd dyn yn ei wybod yn barod, weithiau mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd, ac weithiau mae'r darllenydd yn gorfod bodloni ar gyfranogi o anwybodaeth pawb arall wrth i'r awdur nodi fod ystyron rhai enwau lleoedd 'yn dywyll'. Yn ogystal ''r rhestr enwau lleoedd mae'r gyfrol yn cynnwys mapiau sy'n dangos y prif afonydd a mynyddoedd, ffiniau'r siroedd, a'r hyn sydd wrth fy modd i - y cymydau a'r cantrefi.Nid oes disgwyl y bydd pawb yn cytuno gydag esboniad D. Geraint Lewis bob amser, a bydd rhai yn flin am nad yw'r lle hwn a'r lle arall wedi'u cynnwys; ond yn gyffredinol, y mae ei gyfrol yn ganllaw hwylus i'r sawl sydd am bigo i mewn i'r maes am ennyd o seibiant chwilfrydig. Yr unig drueni yw na thaflodd ei rwyd yn ehangach i gynnwys holl enwau lleoedd Cymru. Ymdriniaeth ar enwau lleoedd 'Cymraeg' yn unig a geir yn y gyfrol, felly mae rhai ardaloedd megis de Sir Benfro, Gŵyr, a rhannau o'r gororau yn anweledig i bob pwrpas. O adnabod D.


Geraint Lewis mae'n siŵr o sylwi ar y bwlch hwnnw yn y farchnad a'i lenwi rhyw ben.Mae'r gyfrol hon yn adeiladu ar sylfeini a osodwyd gan eraill, gan gynnwys Ifor Williams ei hun, ond wrth adeiladu mae D. Geraint Lewis wedi creu adnodd cyfeiriol hylaw, difyr, a hynod ddefnyddiol. Diolch byth na wnaeth yntau, yn fwy na Syr Ifor, gymryd sylw o gyngor Syr John.Lyn Léwis DafisGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.


gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...