"Mae hon yn astudiaeth aeddfed ac amheuthun o gynhwysfawr gan un syn awdurdod yn y maes. Prif gryfderau'r gwaith yw eglurder y cyflwyniad, manylder yr arolwg a threiddgarwch arbennig yr ymdriniaeth feirniadol." Huw Meirion Edwards, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. "Dafydd Johnston's detailed but readable account of Welsh literature in the period 1300-1525 will be the standard work of reference for many years to come. Its careful and incisive discussion of a variety of compositions will prove invaluable for literary scholars and historians alike."Dylan Foster Evans, Welsh History Review 24 Part 1 Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Hon yw'r gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Gutor Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a mn a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad.
Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod. Roedd hon yn llenyddiaeth drwyadl gymdeithasol ac felly esbonnir arwyddocd y gweithiau yn eu cyd-destun hanesyddol, ond rhoddir pwyslais cyson hefyd ar eu gwerth llenyddol a'u hapl at y darllenydd cyfoes.