Llên Yr Uchelwyr : Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg, 1300-1525
Llên Yr Uchelwyr : Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg, 1300-1525
Click to enlarge
Author(s): Johnston, Dafydd
ISBN No.: 9781783160525
Pages: 512
Year: 201404
Format: Trade Paper
Price: $ 52.70
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma ailargraffiad y gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a man a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod.".


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...