English review below Nid dyma''r llyfr croesbwyth cyntaf i''r Lolfa ei gyhoeddi, ond dyma''r llyfr cyntaf iddynt ei gyhoeddi yn gwbl ddwyieithog. Fel y nodir yn y rhagymadrodd, trawsnewidiwyd cestyll Cymru, a fu gynt yn symbolau o ormes estron, yn addurniadau prydferth y gellir ymfalchïo ynddynt. Cyfuniad o''r ymarferol a''r esthetig sydd yn y gyfrol hon: cyfarwyddiadau clir, yn y ddwy iaith, ar gyfer llunio brodwaith hardd, ynghyd ag ychydig o hanes y cestyll a ddarlunnir. Gan fod yr awduron/cynllunwyr yn ceisio bodloni anghenion a medr y dechreuwr yn ogystal '''r brodiwr profiadol, mae cymhlethdod ac effaith y cynlluniau gorffenedig yn amrywio''n fawr. Mae rhai yn blaen iawn, megis cestyll Aberystwyth, Cilgerran a''r Fflint, tra bod eraill yn fwy trawiadol ac, felly, yn fwy o her: cestyll Talacharn, Rhaglan, Powis, Penfro, Harlech a Chaernarfon. Ar y cyfan, y cynlluniau mwyaf soffistigedig, sy''n defnyddio hanner pwythau ac ati, yw''r rhai mwyaf boddhaol; serch hynny, mae rhai o''r cynlluniau symlaf, megis cestyll Dolbadarn a Dolwyddelan, ymhlith y mwyaf deniadol. Dyma gyfrol drwyadl ymarferol, ar sawl cyfri, gan fod manylion, cymharol ddibwys efallai, yn brawf ei bod yn gynnyrch gwaith meddwl dwys gan grefftwyr profiadol. Er enghraifft, mae maint y siartiau yn ardderchog (A3 sy''n plygu''n dwt i A4), felly maent yn ddigon mawr i''w dilyn yn rhwydd ac yn arbed y llygaid! Mae''r rhwymiad ring binder yn sicrhau bod y tudalennau''n aros ar agor yn ddidrafferth, rhywbeth a fyddai''n difetha meingefn llyfr a rwymid yn y dull arferol.
At hynny, mae''r patrymau yn ddigon hyblyg i ganiatáu i unigolion amrywio patrwm a lliw''r borderi pe dymunent roi eu stamp eu hunain ar y cynlluniau, neu pe dymunent frodio cyfres o''u hoff gestyll. Un feirniadaeth fach sydd gennyf, sef yn hytrach na lleoli''r siartiau gyda''i gilydd yng nghefn y gyfrol, hwylusach, efallai, fuasai eu gosod nesaf at y ffotograff lliw cyfatebol gan y byddai''n haws cyfeirio at y naill a''r llall wrth fynd rhagddoch i frodio. Beth bynnag yw eich gallu - os ydych yn dechrau o''r newydd neu ynteu''n hen law ar frodio - mae modd defnyddio siartiau''r gyfrol hon er mwyn creu memento parhaol o''ch hoff gestyll Cymreig.* * *This is not the first cross-stitch book for Y Lolfa to publish, but it is, certainly, their first bilingual cross-stitch venture. As the authors maintain in their introduction, they have transformed Wales''s castles, once symbols of alien oppression, into home decorations to be proud of. This volume combines the functional and the aesthetic: clear instructions, in both Welsh and English, on how to make a beautiful embroidery, as well as some historical background on the castles depicted. Since the authors/designers aim to satisfy the needs and skills of beginners as well as experienced cross-stitchers, the complexity and overall effect of the designs are varied. Some designs, such as those of Aberystwyth, Cilgerran and Flint, are very plain, while others are striking and pose more of a technical challenge: Talacharn, Raglan, Powis, Pembroke, Harlech and Caernarfon.
The more sophisticated designs, which use half-stitches and shading etc, are, on the whole, the most pleasing. However some of the simplest designs, such as Dolbadarn and Dolwyddelan castles, are also amongst the most attractive. Much thought and practical experience have evidently gone into this volume. For example, the charts are an excellent size (A3 folding neatly into A4) which means that they are not only easy to follow but that they are gentler on the eyes! The fact that it is bound with a ring binder ensures that pages stay down effortlessly, without the usual danger of damaging the book''s spine. Furthermore, the patterns are versatile enough to allow individuals to vary the colours and design of borders, should they chose to add a personal touch or should they wish to embroider a series of their favourite castles. One minor criticism is that, rather than grouping the charts together in the back, it would, perhaps, be more expedient to position them alongside the corresponding colour photograph? This would certainly facilitate comparison between the chart and the end result during the creative process. Whatever your ability, whether a novice or a seasoned cross-stitcher, the charts in this well-thought-out volume will help create a permanent memento of your favourite Welsh castles.