Dyma'r ail nofel yn nhrioleg Y Melanai gan Bethan Gwanas, sy'n ddilyniant i'r nofel Efa a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2018. Mae'r drioleg yn dilyn stori Efa, darpar frenhines y Melanai mewn cyfnod ymhell yn y dyfodol, a'i hymdrech i geisio ymdopi ''r disgwyliadau ohoni fel tywysoges ei llwyth.Erbyn dechrau'r nofel hon, mae Efa a'i ffrindiau agosaf wedi dianc o wlad Melanai, ar draws y môr i dir y Diffeithwch Du. A hithau bellach o fewn dyddiau i gyrraedd ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed, sylweddolodd Efa na allai ddilyn traddodiad y Melanai a lladd ei mam er mwyn dod yn frenhines, gan benderfynu dianc yn hytrach nag wynebu'r dynged honno. A'r Diffeithwch Du yw'r man gwyn man draw y mae hi a'i ffrindau yn ei ddewis fel hafan.Ond wrth gwrs, mae dianc yn fwy o her nag y tybiodd Efa a'i ffrindiau erioed, wrth i anifeiliaid rheibus rhyfedd, llosgfynyddoedd a phob math o anawsterau a bygythiadau eraill wneud bywyd yn anodd iawn iddyn nhw. Drwy gydol y nofel, mae cysgod perygl yn drwch dros eu pennau wrth iddyn nhw fentro o'r arfordir, i ganol y llosgfynyddoedd a thros y gwastatir er mwyn ceisio cyrraedd llwyth o bobl y maen nhw wedi clywed sôn amdanyn nhw - llwyth a allai fod yn barod i gynnig lloches iddyn nhw.Dyma nofel hawdd iawn i'w darllen, gyda phenodau hwylus o ran eu hyd, sy'n eich denu i ddarllen ymlaen.
Mae'r stori hefyd yn ddigon gafaelgar, er bod rhai o'r digwyddiadau weithiau ychydig bach yn rhy gyfleus a'r stôr o nwyddau a'r bwyd y mae'r criw wedi eu pacio ar gyfer y daith yn ddiddiwedd. Mae yma feirniadaeth achlysurol ar ein hoes ni a allai brocio meddyliau'r gynulleidfa darged, sef pobl ifanc yn eu harddegau. Mae Bethan Gwanas hefyd wedi llwyddo i blannu ambell gwestiwn y mae angen eu hateb cyn cau pen y mwdwl ar y drioleg, a dyna, mae'n siwr, gaiff ei ddadlennu yn y drydedd gyfrol yn y drioleg, sef Edenia .Effaith penderfyniadau a gwerth ffyddlondeb ffrindiau yw prif them'u Y Diffeithwch Du , heb anghofio arlliw o stori garu hefyd - them'u sy'n sicr o apelio at drwch y darllenwyr. Ac er mai'r ail gyfrol mewn trioleg yw'r nofel hon, does dim rheidrwydd i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf, Efa , cyn gallu mwynhau hon yn llawn, felly ewch amdani!.