Mae Bethan Gwanas yn adnabod plant a phobl yn dda iawn, ac mae'n disgrifio paratoadau Mam am bicnic ar lan y môr, a'r ffraeo sy'n digwydd wedyn rhwng ei phlant, Cadi a Mabon, i'r dim! Aeth Cadi'n flin oherwydd fod y tywydd wedi troi a'r ffaith fod Mabon a hithau yn ffraeo. Aiff Cadi i ffwrdd, ac yn ei thymer, mae'n taflu potel ddiod blastig i'r môr. Oherwydd hyn, caiff ei thynnu i'r dwr gan Mabli y fôr-forwyn, a chael anturiaethau lu yno.Mae'r stori yn ddiddorol iawn, yn llawn hud a lledrith, ac yn fy atgoffa am ffilmiau o dan y dwr, sef The Little Mermaid , Finding Nemo , a Finding Dory . Roeddwn yn hoffi hyn, gan fy mod wedi eu mwynhau.Mae maint y ffont yn fach i'r rhai ieuengaf, ac mae dipyn o waith darllen ar y stori. Ond na phoener, mae'r lluniau yn lliwgar ac yn cyfleu'r byd tanddwr, ac mi fedrwch ddilyn y stori drwy'r lluniau.Mae'r stori wedi ei hysgrifennu ar gyfer plant 5-8 oed ond hwyrach y bydd y rhai ieuengaf angen cymorth i'w darllen.
Heb ddatgelu gormod, mae Cadi yn dychwelyd at Mam a Mabon, wedi dysgu ei gwers am beidio taflu sbwriel i'r môr.Rydw i am roi marc o 9 allan o 10 i'r llyfr oherwydd roeddwn yn meddwl ei fod wedi ei ysgrifennu a'i gyflwyno yn wych i blentyn o fy oed i. Rydw i'n edrych ymlaen at fwy o anturiaethau Cadi yn fawr iawn.Begw Wheldon Williams, 8 oed (bron yn 9!).