Dwi wrth fy modd yn teithio, nid yn unig oherwydd y profiad o ymweld ' gwledydd pell ond hefyd y pleser o ddarllen am y llefydd cyn mynd iddyn nhw. Mae gen i domen o lyfrau teithio ar fy silffoedd llyfrau, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn prynu gormod o Rough Guides. Felly, roedd cael y cyfle i adolygu llyfr taith diweddaraf Bethan Gwanas yn apelio ataf yn fawr. Mi wnes i ddilyn yr ail gyfres o Ar y Lein a mwynhau agwedd 'traed ar y ddaear' y cyflwynydd a chael mwy o gig ar asgwrn yr ymweliadau, ond dwi ddim yn credu fod yn rhaid gwylio'r gyfres er mwyn mwynhau'r llyfr hwn. Yn yr ail gyfrol hon, mae'r awdures yn ymweld ag amrywiaeth helaeth o ddiwylliannau gan gynnwys gwledydd Ewrop, Sbaen, yr Affrig, Mali, yr Antarctig, y Môr Ross, Seland Newydd, Fiji, Pegwn y Gogledd, Ynysoedd y Ffaroe ac yna'n olaf, yr Alban. Gan fod pob gwlad mor wahanol a phrofiadau Bethan Gwanas yn y gwledydd mor amrywiol, mae angen darllen y pytiau fesul dyddiad yn bwyllog er mwyn treulio'r holl wybodaeth. Gan mai ar ffurf dyddiadur y mae'r cyfan, roedd cynildeb yn amlwg yn hanfodol ac mae'n cymryd ychydig o amser i arfer hefo'r arddull bytiog. Wedi dweud hynny, braf oedd peidio ' chael gormod o ddisgrifiadau hirwyntog a blodeuog o olygfeydd a mannau ar y daith yn britho'r dyddiadur.
Y bobl ar y daith yn amlwg sy'n mynd ' bryd Bethan Gwanas, y bobl a'u bywydau a'u persbectif gwahanol iawn iddi hi. Mae hi'n ymhyfrydu yng nghwmni pob math o bobl, o'r bachgen ifanc yn yr Ysgol Hyfforddi Matadors yn Sbaen i Mustafa ym Morocco. Yr hyn sy'n awyr iach ydi bod profiadau ac egwyddorion y bobl sydd yn y gyfrol yn cyfoethogi profiad yr awdures a bod y rhai sydd ''r lleiaf o eiddo yn meddu ar y dedwyddwch mwyaf. Y gaeaf hwn, os ydych chi awydd gweld mannau amrywiol diddorol ledled y byd trwy lygaid teithwraig brofiadol a hynny heb symud oddi wrth y t'n, mynnwch gopi o Ar y Lein Eto. Ond un gair o gyngor olaf i chi, gofalwch gael atlas y byd gerllaw er mwyn i chi lawn ddeall lle'n union y byddwch chi ar eich trafals. Rhian Tomos Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.