Live Welsh - Learn Real, Spoken Welsh!
Live Welsh - Learn Real, Spoken Welsh!
Click to enlarge
Author(s): Gruffudd, Heini
ISBN No.: 9781847712424
Pages: 160
Year: 201202
Format: Trade Paper
Price: $ 12.21
Status: Out Of Print

Yn sicr mae angen llyfr bach poced fel hwn yn y maes dysgu Cymraeg i oedolion, i'w ddefnyddio gan y rhai sydd wrthi'n dysgu'r iaith neu yn ystyried ymuno ' chwrs. Mae'n werthfawr hefyd i diwtoriaid Cymraeg (fel fi) gael golwg ar lyfrau tebyg a chael gwybod pa adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr. Mae'r llyfr wedi ei rannu'n 42 o benodau, dwy ochr dudalen yr un, gyda geirfa i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd bob dydd. Yr iaith lafar a geir, megis 'Fi'n mynd i'r sinema', neu ffurf ar gwestiwn, 'Ti'n credu bo fe'n cysgu?' Mae'r cystrawennau wedi eu hollti'n gymalau ar y dudalen, mewn gwahanol liwiau. Gall y dysgwr osod geiriau gwahanol ym mhob cymal i newid ystyr y frawddeg gan arwain at ymarfer patrwm a chynyddu geirfa. Mewn dull fel hwn mae gofyn i'r sawl sy'n dysgu ailadrodd a dysgu ar ei gof, heb gwestiynu na cheisio gosod yr iaith ar strwythur unrhyw iaith arall a siaredir ganddo. Mae'r cynnwys a'r eirfa yn helaeth, o ystyried maint y llyfr, ac i unrhyw un sydd am roi blaen ei fawd yn y dwr cyn cychwyn ar gwrs Cymraeg byddai'n fan cychwyn gwerthfawr, yn arbennig i ddysgwyr o dde Cymru. Gorau oll pe byddai gan y dysgwr hwnnw siaradwr Cymraeg cefnogol, sydd ddim yn burydd, i'w helpu wrth ddefnyddio'r llyfr.


Fel dywed y broliant ar y clawr, mae'n gyhoeddiad syml heb gymhlethdod gramadeg. Mae lle iddo, ond law yn llaw ' thiwtor sy'n gallu esbonio'r elfennau gramadeg yn syml pan fo angen. Fel dywedodd un o'm dysgwyr, mae'r llyfr yn ddefnyddiol 'if you're happy to imitate a particular style without ever wanting to know the principles behind it .' Wrth gwrs, trwy'r dull hwn, heb gwestiynu, mae plant yn dysgu ei hiaith gynta felly pam na all oedolion geisio gwneud yn yr un modd?.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...