Wythnos yng Nghymru Fydd
Wythnos yng Nghymru Fydd
Click to enlarge
Author(s): Elis, Islwyn Ffowc
ISBN No.: 9781843238621
Year: 200707
Format: Trade Paper
Price: $ 15.80
Dispatch delay: Dispatched between 7 to 15 days
Status: Available

Er i'r nofel hon gael ei chyhoeddi gyntaf ym 1957, mae'n sicr yn stori sy'n cydio yn nychymyg y darllenydd o'r dechrau, a hynny hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Gwir yw nodi fod rhai o'r syniadau sydd i fod i ymddangos yn fodern ac anghredadwy yn ymddangos yn henffasiwn erbyn heddiw, ond wrth gofio'r cyfnod yr ysgrifennwyd hi, mae yna rywsut fwy o hud a chlyfrwch yn perthyn i'r stori.Heb ddatgelu gormod, stori am Ifan Powell yn neidio o'r flwyddyn 1956 i'r flwyddyn 2033 ydyw hon, gyda chymorth Dr Heinkel a'r elfen K. Drwy ddefnyddio'r trydydd dimensiwn, ' Ifan o Gymru lwfr, Brydeinig, draddodiadol y cyfnod i Gymru Rydd ddelfrydol. Nid oes dim o'i le ar y wlad annibynnol hon, o'r bwyd a'r gerddoriaeth i'r ffyrdd y cosbir troseddwyr. Gyda chymorth teulu Llywarch, caiff Ifan Powell ei hebrwng drwy Gaerdydd a Chymru gyfan i weld ffermydd, chwareli a glofeydd cymunedol a llwyddiannus y wlad. Mae pob golygfa yn odidog ac nid oes brys ar Ifan i ddychwelyd, yn enwedig ar ôl cyfarfod Mair Llywarch. Ond nid yw'r siwrne'n fêl i gyd pan ddaw wyneb yn wyneb ag arweinyddion cas y Crysau Porffor sydd am weld Cymru'n rhan o Brydain unwaith eto.


Maent yn benderfynol y bydd Ifan yn eu cynorthwyo i wneud hynny, boed hynny o'i wirfodd neu beidio.Mae'n rhaid i Ifan ddychwelyd i'w oes ei hun yn fuan, er y carai ef aros yn y Gymru Rydd. Wedi ychydig o amser yn ôl yn 1957, penderfyna ei fod eisiau dychwelyd i 2033 er gwaethaf rhybuddion Dr Heinkel am y peryglon. Wrth geisio mynd yn ôl i'r flwyddyn 2033 am yr ail dro, ' pethau o chwith i Ifan. Yma gwelwn wrthgyferbyniad llwyr ''r Gymru ddelfrydol, heddychlon a brofodd Ifan ar ei ymweliad cyntaf. Nid Cymru ydyw'r wlad bellach, ond Lloegr Orllewinol. Dyma ddarlun hollol wahanol i'r Gymru Rydd welodd ef gynt; cyferbyniad sy'n ddigon i godi ias. Mae'r iaith Gymraeg wedi marw ac mae Cymru erbyn hyn yn lle erchyll i fyw ynddo gyda chriwiau megis y platoons yn gwneud i'r crysau porffor edrych yn heddychlon.


Mae'n amlwg wrth ddarllen y nofel heddiw mai nofel o bropaganda cenedlaetholgar y cyfnod yw hon, ac nid yw Islwyn Ffowc Elis yn ceisio celu hynny. Mae cyflwyniad newydd Dylan Iorwerth yn cyfoethogi'r darlleniad, ac yn amlygu cysyniadau difyr iawn. Dyma nofel a wna i chi grio, chwerthin, gwenu a gobeithio er nad yw rhai o'r syniadau pellgyrhaeddol yn ymddangos mor amhosib erbyn heddiw.Lowri Mair JonesGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com , trwy ganiat'd Cyngor Llyfrau Cymru.It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.


com , with the permission of the Welsh Books Council.


To be able to view the table of contents for this publication then please subscribe by clicking the button below...
To be able to view the full description for this publication then please subscribe by clicking the button below...